Ysgol Aberconwy Prospectus

Welcome to interactive presentation, created with Publuu. Enjoy the reading!

YSBRYDOLI | CEFNOGI | LLWYDDO INSPIRE | SUPPORT | SUCCEED

MORFA DRIVE

CONWY LL32 8ED

+44 (0)1492 593243

+44 (0)1492 592537

info@aberconwy.conwy.sch.uk

www.aberconwy.conwy.sch.uk

PROSBECTWS | PROSPECTUS

INSPIRE | SUPPORT | SUCCEED

YSBRYDOLI | CEFNOGI | LLWYDDO

I am extremely proud to be the Headteacher of Ysgol

Aberconwy - a school that puts learning and individual

achievement at the heart of everything it does. We want

every student to succeed, to achieve their full potential, be

prepared for the future and become confident, thoughtful

young people so they leave us ready for the challenges of

an exciting and increasingly competitive world.

Situated in a spectacular location on

the Conwy estuary, the school boasts

a modern, well-maintained and well-

equipped environment. Whilst the

school’s ethos is based on traditional

values of respect, responsibility and

community spirit, students experience

the very latest technology and teaching

methods in the classroom.

We are proud of our Welsh tradition and

heritage. The school encourages the

use of the Welsh language in lessons

and beyond, and we are developing the

provision of some subjects through the

medium of Welsh for those who want it.

We are very fortunate to have a

dedicated and highly professional team

of teachers and support staff who expect

the very highest standards from all

our students, whilst our strong school

systems ensure that students learn in

a safe and friendly environment where

teachers teach and learners learn.

We want the same things that you

want for your child. In order to achieve

this we rely on our home-school

partnership. We encourage parents and

carers to get involved in the life of the

school and their children’s educational

journey alongside the dedicated team

of mentors that will guide your children

along the way.

We hope you enjoy this prospectus and

find all the information you need inside

it, but would also encourage you to

visit us to see this vibrant and exciting

environment for yourself.

Ian Gerrard

Headteacher

HEADTEACHER

MR IAN GERRARD

WELCOME TO OUR PROSPECTUS

Rwyf yn falch iawn o fod yn Bennaeth Ysgol Aberconwy –

ysgol sy’n rhoi dysgu a chyflawniad yr unigolyn wrth galon

popeth a wna. Rydym yn awyddus i bob myfyriwr llwyddo,

i gyflawni eu llawn botensial, i fod yn barod at y dyfodol

a datblygu’n bobl ifainc hyderus a meddylgar sy’n barod i

wynebu heriau byd cyffrous sy’n fwyfwy cystadleuol.

Mae’r ysgol wedi ei lleoli ar foryd yr

afon Conwy, ac yn darparu amgylchedd

modern o safon uchel gydag adnoddau

ardderchog. Mae ethos yr ysgol wedi’i

seilio ar werthoedd traddodiadol fel

parch, cyfrifoldeb ac ysbryd cymunedol,

ond mae myfyrwyr hefyd yn cael

profi’r dechnoleg a’r dulliau addysgu

diweddaraf yn yr ystafell ddosbarth.

Rydym yn ymfalchïo yn ein traddodiad

a’n hetifeddiaeth Gymreig. Mae’r ysgol

yn annog defnyddio’r iaith Gymraeg

mewn gwersi a thu allan iddynt, ac

rydym yn datblygu ein gallu i ddarparu

rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg

i’r sawl sy’n eu dymuno.

Rydym yn ffodus iawn i gael tîm

o athrawon a staff cynorthwyol

ymroddedig a phroffesiynol iawn

sy’n disgwyl y safonau uchaf gan

eu myfyrwyr, ac ar yr un pryd mae

systemau cadarn yr ysgol yn sicrhau bod

myfyrwyr yn dysgu mewn amgylchedd

diogel a chyfeillgar lle mae athrawon yn

addysgu a dysgwyr yn dysgu.

Rydym yn rhannu eich dymuniadau ar

gyfer eich plentyn. Er mwyn eu cyflawni,

rydym yn dibynnu ar ein partneriaeth

cartref-ysgol, ac yn annog rhieni a

gofalwyr i gymryd rhan ym mywyd

yr ysgol ac yn nhaith addysgol ein

plant, ochr yn ochr â thîm o fentoriaid

ymroddedig a fydd yn tywys eich plant

ar hyd y ffordd.

Gobeithio y cewch flas ar y prosbectws

hwn, a chael hyd i’r holl wybodaeth sydd

ei hangen arnoch, ond byddem hefyd yn

eich annog i ymweld â ni er mwyn gweld

yr amgylchedd egnïol a chyffrous hwn

drosoch eich hun

Ian Gerrard

Pennaeth

PRIFATHRO

MR IAN GERRARD

CROESO I’N PROSBECTWS

“Aberconwy and its teaching staff are a shining example of,

how, given the right understanding and support, all children

can achieve in main stream schooling” (Parent)

“Mae Aberconwy a’i staff addysgu yn enghraifft wych o sut y

gall pob plentyn gyflawni mewn addysg brif ffrwd, o dderbyn

y ddealltwriaeth a’r gefnogaeth briodol” (Rhiant)

We are very proud of our unique

pastoral system – designed to

support each and every student to

develop their ambition and realise

their potential.

The school is organised into year groups with

each ‘Head of Year’ supported by a ‘Year Mentor’

who, as a member of the non-teaching staff, is

always available to guide and help your child.

These mentors know each and every student

as an individual and stay with them throughout

their time here at Ysgol Aberconwy. They will

help them to settle in the school and progress

through it, will guide them through the process

of choosing options for the future when the time

comes and will ensure that they review their

learning and progress on a regular basis.

Rydym yn falch iawn o’n system

fugeiliol, a gynlluniwyd i helpu

pob myfyriwr i ddatblygu eu

huchelgais a chyrraedd eu

potensial.

Trefnwyd yr ysgol yn grwpiau blwyddyn gyda

phob ‘Pennaeth Blwyddyn’ yn cael eu cefnogi gan

‘Mentor Blwyddyn’ sy’n aelod o’r staff nad ydynt

yn addysgu, ac ar gael bob amser i arwain a helpu

eich plentyn. Mae’r mentoriaid hyn yn adnabod

pob plentyn fel unigolyn ac yn aros gyda hwy

drwy gydol eu cyfnod yma yn Ysgol Aberconwy.

Byddant yn eu helpu i ymgartrefu yn yr ysgol ac

i symud yn eu blaen drwy’r ysgol, yn eu harwain

drwy’r broses o wneud dewisiadau at y dyfodol

pan ddaw’r amser hwnnw ac yn sicrhau eu bod

yn adolygu eu dysgu a’u cynnydd yn rheolaidd.

Cefnogi ein gilydd

Supporting each other

“The school promotes successfully an inclusive, supportive and

nurturing community that has a significant beneficial impact on

pupils’ wellbeing and personal development.”

(ESTYN REPORT 2018)

“Mae’r ysgol yn hyrwyddo cymuned gynhwysol, gefnogol a

meithringar yn llwyddiannus, sydd wedi cael effaith fuddiol

sylweddol ar les a datblygiad personol disgyblion”

(ADRODDIAD ESTYN 2018)

INSPIRE | SUPPORT | SUCCEED

YSBRYDOLI | CEFNOGI | LLWYDDO

INSPIRE | SUPPORT | SUCCEED

YSBRYDOLI | CEFNOGI | LLWYDDO

At Ysgol Aberconwy we work

hard to make sure that every

student has a voice.

We have robust systems in place to ensure

that every child can be heard, either through

conversation with their Mentor or through the

school council. All student representatives are

elected by members of the school, giving them

a mandate to influence, help and listen to the

student body. The Head students meet the

governing body and the Headteacher on

a regular basis to share ideas and feedback

on any issues that arise.

Yn Ysgol Aberconwy rydym yn

gweithio’n galed i wneud yn siŵr

bod gan bob myfyriwr lais.

Mae gennym systemau cadarn sy’n sicrhau bod

llais pob myfyriwr yn cael ei chlywed, naill ai drwy

sgwrsio gyda’u Mentor neu drwy’r cyngor ysgol.

Etholir pob cynrychiolydd gan aelodau o’r ysgol,

sy’n rhoi mandad iddynt i ddylanwadu, helpu a

gwrando ar fyfyrwyr eraill. Mae’r Prif Fyfyrwyr yn

cyfarfod â’r corff Llywodraethol a’r Pennaeth yn

rheolaidd i rannu syniadau ac adborth ar unrhyw

faterion sydd yn codi.

Dysgu Gyda’n Gilydd

LEARNING TOGETHER

“Ysgol Aberconwy students have been exemplary in their

attendance, attitude and work ethic. It has been an absolute

pleasure to teach them and they bring great credit to your

school.” (LINC course tutor)

“Mae presenoldeb, agwedd a moeseg gwaith myfyrwyr Ysgol

Aberconwy wedi bod yn rhagorol. Bu’n bleser mawr eu dysgu ac

maen nhw’n dwyn clod i’ch ysgol.” (Twtor cwrs LINC)

We work with our local primary

schools to make the transition

from Year 6 into 7 as easy as

possible for your child, so

that they feel secure in their

new surroundings and their

education is allowed to

continue uninterrupted.

We have a dedicated team of teachers who visit

primary schools during the year to get to know

children and their needs, as well as answering

questions they may have about secondary

school. We hold an introductory day in Year 5 and

then a full week of activities and lessons in the

summer of Year 6, so students are comfortable

and confident about their new school before the

summer holidays begin.

We also work closely with primary schools to

implement the ‘Curriculum for Wales’ and to

ensure that progression in learning is maintained

through the transition period.

Rydym yn gweithio gyda’n

hysgolion cynradd lleol i geisio

sicrhau bod eich plentyn yn symud

heb unrhyw anhawster o flwyddyn

6 i flwyddyn 7, eu bod yn teimlo’n

ddiogel yn eu hysgol newydd a bod

eu haddysg yn ddi-dor.

Mae gennym dîm o athrawon ymroddedig

sy’n ymweld ag ysgolion cynradd yn ystod y

flwyddyn er mwyn dod i adnabod y plant a’u

hanghenion, ac i ateb eu cwestiynau am fywyd

mewn ysgol uwchradd. Rydym yn cynnal diwrnod

rhagarweiniol ym mlwyddyn 5 ac yna wythnos

gyfan o weithgareddau a gwersi yn ystod haf

blwyddyn 6, fel bod myfyrwyr yn teimlo’n gysurus

a chartrefol yn eu hysgol newydd cyn i’r gwyliau

ysgol ddechrau.

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gydag ysgolion

cynradd i weithredu’r ‘Cwricwlwm i Gymru’ ac

i sicrhau bod dilyniant mewn dysgu yn cael ei

gynnal drwy’r cyfnod pontio.

Ymgartrefu

SETTLING IN

At Aberconwy teaching and

learning is at the centre of

all we do and we place great

importance in developing

positive relationships between

the student and the teacher.

Our modern classrooms offer an excellent

environment in which to learn and our computer

rooms, sports centre, science labs, library,

technology workshops, photographic studio,

music facilities and drama studio provide

outstanding specialist facilities. We offer a broad,

challenging and exciting range of subjects. We

have high expectations of our students and they

achieve well – all of our Year 11 student cohorts

regularly achieve five or more GCSE or equivalent

qualifications and our sixth form regularly

achieves in the top 25% of schools nationally.

Yn Aberconwy mae addysgu a

dysgu wrth galon popeth a wnawn

ac rydym yn rhoi pwys mawr ar

ddatblygu perthnasau cadarnhaol

rhwng y myfyrwr a’r athro.

Mae ein dosbarthiadau modern yn gefndir

gwych ar gyfer dysgu a mae ein hystafelloedd

cyfrifiaduron, canolfan chwaraeon, labordai

gwyddoniaeth, llyfrgell, gweithdai technoleg,

stiwdio ffotografÏg, cyflysterau cerddoriaeth a

stiwdio ddrama yn cynnig cyfleusterau arbenigol

heb eu hail. Rydym yn cynnig ystod eang, heriol a

chyffrous o bynciau. Mae gennym ddisgwyliadau

uchel o’n myfyrwyr ac maent yn llwyddo’n dda

– mae ein holl fyfyrwyr Blwyddyn 11 yn cyflawni

pump neu ragor o gymwysterau TGAU neu

gyfwerth yn rheolaidd, ac mae ein chweched

dosbarth yn cyflawni yn y 25% uchaf o ysgolion

yn genedlaethol yn gyson.

Addysgu a Dysgu

TEACHING AND LEARNING

“My son has never enjoyed school so much. According to him

even Maths is fun at Ysgol Aberconwy” (Parent : Transition week)

“Dydy fy mab erioed wedi mwynhau’r ysgol gymaint â hyn.

Mae e’n dweud bod ‘hyd yn oed Mathemateg yn hwyl yn

Aberconwy” (Rhiant : Wythnos bontio)

INSPIRE | SUPPORT | SUCCEED

YSBRYDOLI | CEFNOGI | LLWYDDO

At Ysgol Aberconwy once our

students have finished their

GCSE’s and achieved a minimum

of 5 A*-C grades, they are able

to progress into our sixth form,

where we offer a wide range of

subjects. Group sizes often give

greater opportunity for individual

attention.

Our pastoral system extends into Sixth Form;

there is a guidance mentor who supports sixth

form students on a daily basis and is always

available for student and parental contact, which

is invaluable as they start taking their first steps

towards higher education or the world of work.

We have dedicated sixth form facilities, which

include a study area for students to use outside

the classroom with access to computers and

other study resources. We also have a common

room for sixth form students to use between

lessons.

As well as huge success in employment and

apprenticeships, most of our students progress

to degree level study at universities across the UK

from Southampton to Edinburgh and everywhere

in between.

Pan fydd ein disgyblion yma yn

Ysgol Aberconwy wedi cwblhau

eu harholiadau TGAU ac wedi

cyflawni lleiafswm o 5 gradd A*-C,

gallant symud ymlaen i’n chweched

dosbarth, lle rydym yn cynnig

ystod eang o bynciau. Mae maint y

grwpiau yn aml yn rhoi mwy o gyfle

ar gyfer sylw unigol.

Mae ein system fugeiliol yn ymestyn i’r Chweched

Dosbarth; mae mentor arweiniol yn cefnogi

myfyrwyr chweched dosbarth o ddydd i ddydd

ac ar gael bob amser i gyfathrebu â myfyrwyr a

rhieni, rhywbeth sy’n werthfawr iawn wrth iddynt

gymryd eu camau cyntaf tuag at addysg uwch a

byd gwaith.

Mae gennym gyfleusterau chweched dosbarth

pwrpasol, sy’n cynnwys ardal astudio y gall

myfyrwyr ei defnyddio y tu allan i’r dosbarth gyda

mynediad i gyfrifiaduron ac adnoddau astudio

eraill. Mae gennym hefyd ystafell gyffredin y gall

myfyrwyr chweched dosbarth ei defnyddio rhwng

gwersi.

Yn ogystal â llwyddo ym myd gwaith a

phrentisiaethau, mae’r mwyafrif o’n myfyrwyr yn

symud ymlaen i wneud gradd mewn prifysgolion

ledled y DU o Southampton i Gaeredin.

CHWECHED DOSBARTH

SIXTH FORM

INSPIRE | SUPPORT | SUCCEED

YSBRYDOLI | CEFNOGI | LLWYDDO

“We feel that our daughter is getting the teaching that will

not only enhance her learning but in time help bring back her

confidence” (Y7 Parent)

“Teimlwn fod ein merch yn cael ei haddysgu mewn ffordd a fydd

nid yn unig yn gwella’i dysgu ond a fydd hefyd, ymhen amser,

yn helpu i ddod â’i hyder yn ôl” (Rhiant Bl7)

Excellent schools provide a wide

range of opportunities beyond the

classroom and Ysgol Aberconwy is

no exception.

Each year our students have the chance of

going on local trips to places such as Glan Llyn

to develop their Welsh language skills, to Bod

Silin our school cottage in the mountains to

develop their outdoor survival skills, to France

and Germany to develop language skills, Italy

to ski and occasionally further afield to places

like Iceland and Borneo!! We offer students the

chance to develop ‘Forest School’ skills, learn

through the ‘Duke of Edinburgh’s Award’ scheme,

and engage in an annual school Eisteddfod,

school play and school musical. Regular sports

training sessions are organised and teams play

in house competitions and against local schools.

In short, our school day extends well beyond

the bell!

Mae ysgolion rhagorol yn darparu

ystod eang o gyfleoedd y tu allan

i’r ystafell ddosbarth a mae hyn yn

wir am Ysgol Aberconwy.

Bob blwyddyn mae ein myfyrwyr yn cael cyfle

i fynd ar deithiau lleol i fannau fel Glan Llyn i

ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, i Fod Silin,

ein bwthyn ysgol yn y mynyddoedd i ddatblygu

eu sgiliau goroesi yn yr awyr agored, i Ffrainc a’r

Almaen i ddatblygu sgiliau iaith, i’r Eidal i sgïo ac

weithiau ymhellach i ffwrdd i lefydd fel Gwlad yr

Ia a Borneo! Rydym yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr

ddatblygu sgiliau ‘Ysgol Goedwig’, i ddysgu trwy

gynllun ‘Gwobr Dug Caeredin’, ac i gymryd rhan

mewn Eisteddfod Ysgol flynyddol, drama ysgol a

sioe gerdd. Trefnir sesiynau hyfforddi chwaraeon

yn rheolaidd, ac mae’r timau’n chwarae mewn

cystadlaethau rhwng y Tai ac yn erbyn ysgolion

lleol. Yn fyr, mae ein diwrnod yn ymestyn ymhell

tu hwnt i’r gloch!

Y tu hwnt i’r Ystafell Ddosbarth

BEYOND THE CLASSROOM

 

uk

MORFA DRIVE

CONWY LL32 8ED

+44 (0)1492 593243

+44 (0)1492 592537

info@aberconwy.conwy.sch.uk

www.aberconwy.conwy.sch.uk

YSBRYDOLI | CEFNOGI | LLWYDDO INSPIRE | SUPPORT | SUCCEED

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12

Made with Publuu - flipbook maker